1 Pan oedd Israel yn blentynroeddwn yn ei garu,a gelwais fy mab allan o'r Aifft.
2 Ond po fwya roeddwn i'n galw,pellaf roedden nhw'n mynd.Roedden nhw'n aberthu i ddelwau o Baal,a llosgi arogldarth i eilunod.
3 Fi ddysgodd Effraim i gerdded;a'i arwain gerfydd ei law.Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabodmai fi ofalodd amdanynt.
4 Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr –tennyn cariad.Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf,a fi wnaeth blygu i'w bwydo.
5 Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!Bydd Asyria'n eu rheoli,am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i.
6 Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi.Bydd y gelyn yn malu'r giatiau,a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.