6 Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi.Bydd y gelyn yn malu'r giatiau,a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.
7 Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i.Maen nhw'n galw ar Baal,ond fydd e byth yn eu helpu nhw!
8 Sut alla i dy roi heibio, Effraim?Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel?Sut alla i dy roi heibio fel Adma?Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm?Na, dw i wedi newid fy meddwl!Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.
9 Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi.Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr!Duw ydw i, nid dyn fel chi,yr Un Sanctaidd – dw i ddim am ddod i ddinistrio.”
10 Bydd yr ARGLWYDD yn rhuo fel llew,a byddan nhw'n ei ddilyn eto.Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dodo'r gorllewin yn llawn cyffro.
11 Dod ar frys fel adar o'r Aifft,neu golomennod yn hedfan o Asyria.“Bydda i'n eu casglu nhw'n ôl i'w cartrefi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
12 Ac eto celwydd Effraim sydd o'm cwmpas;dydy pobl Israel yn gwneud dim byd ond twyllo.Ac mae Jwda'n crwydro yn ôl ac ymlaen oddi wrth Dduw –yr Un Sanctaidd, sydd mor ffyddlon.