2 Ac maen nhw'n dal i bechu!Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd;eilunod cywrain wedi eu gwneud o arian –ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl!Mae yna ddywediad amdanyn nhw:“Mae'r bobl sy'n aberthuyn cusanu teirw!”
3 Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore,neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar;fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu,neu fwg sy'n dianc drwy ffenest.
4 “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw,ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –Fi ydy'r unig un sy'n achub!
5 Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch,mewn tir sych, diffaith.
6 Ond wedi eu bwydo, roedden nhw'n fodlon –mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch,ac yna fy anghofio i!
7 Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew,ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
8 Bydda i'n ymosod arnyn nhwfel arth wedi colli ei chenawon;a'i llarpio nhw fel llew,neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.