4 “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw,ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –Fi ydy'r unig un sy'n achub!
5 Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch,mewn tir sych, diffaith.
6 Ond wedi eu bwydo, roedden nhw'n fodlon –mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch,ac yna fy anghofio i!
7 Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew,ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
8 Bydda i'n ymosod arnyn nhwfel arth wedi colli ei chenawon;a'i llarpio nhw fel llew,neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.
9 Dw i'n mynd i dy ddinistrio di, O Israel!Pwy sydd yna i dy helpu di?
10 Ble mae dy frenin,iddo fe dy achub di?Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi?Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.