12 Bydda i'n difetha ei gwinllannoedd a'i choed ffigys –roedd hi'n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl.Bydda i'n troi'r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu'n wyllt;dim ond anifeiliaid gwylltion fydd yn bwyta eu ffrwyth.
13 Bydda i'n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi'nllosgi arogldarth i ddelwau o Baal.Roedd hi'n gwisgo'i chlustdlysau a'i gemwaithi fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
14 “Felly, dw i'n mynd i'w denu hi yn ôl ata i.Dw i'n mynd i'w harwain hi yn ôl i'r anialwcha siarad yn rhamantus gyda hi eto.
15 Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi,a troi Dyffryn y Drychineb yn Giât GobaithBydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc,pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft.
16 Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“byddi'n galw fi, ‛fy ngŵr‛;fyddi di byth eto'n fy ngalw i, ‛fy meistr‛.
17 Bydda i'n gwneud i ti anghofio enwau'r delwau o Baal;fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto.
18 Bryd hynny, bydda i'n gwneud ymrwymiadgyda'r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a'r holl bryfed ar y ddaearBydda i'n cael gwared ag arfau rhyfel – y bwa saeth a'r cleddyf;A bydd fy mhobl yn byw'n saff a dibryder.