15 Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi,a troi Dyffryn y Drychineb yn Giât GobaithBydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc,pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft.
16 Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“byddi'n galw fi, ‛fy ngŵr‛;fyddi di byth eto'n fy ngalw i, ‛fy meistr‛.
17 Bydda i'n gwneud i ti anghofio enwau'r delwau o Baal;fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto.
18 Bryd hynny, bydda i'n gwneud ymrwymiadgyda'r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a'r holl bryfed ar y ddaearBydda i'n cael gwared ag arfau rhyfel – y bwa saeth a'r cleddyf;A bydd fy mhobl yn byw'n saff a dibryder.
19 Bydda i'n dy gymryd di'n wraig i mi am byth.Bydda i'n dy drin di'n deg, yn gyfiawn,ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat.
20 Bydda i'n ffyddlon i ti bob amser,a byddi di'n fy nabod i, yr ARGLWYDD.
21 Bryd hynny, bydda i'n ymateb i ti'n frwd,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Bydda i'n rhoi cymylau i'r awyr, a bydd yr awyr yn rhoi glaw i'r tir.