2 Plediwch yn daer gyda'ch mam(Dydy hi ddim yn wraig i mi,a dw i ddim yn ŵr iddi hi.)Plediwch arni i stopio peintio ei hwyneb fel putain,a dangos ei bronnau i bawb.
3 Neu bydda i'n rhwygo ei dillad oddi arni –bydd hi'n hollol noeth, fel ar ddiwrnod ei geni.Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch.Bydd fel tir sych;a bydd hi'n marw o syched.
4 Fydda i'n dangos dim trugaredd at ei phlant,am mai plant siawns ydyn nhw, am iddi buteinio.
5 Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw;mae hi wedi ymddwyn yn warthus.Roedd hi'n dweud:‘Dw i'n mynd at fy nghariadon.Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi,gwlân, llin, olew, a diodydd.’
6 Felly, dw i am gau ei ffordd gyda draina chodi wal i'w rhwystro,fel ei bod hi'n colli ei ffordd.
7 Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon,bydd hi'n methu eu cyrraedd nhw.Bydd hi'n chwilio, ond yn methu ffeindio nhw.Bydd hi'n dweud wedyn,‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr.Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’
8 “Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd – ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal!