5 Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw;mae hi wedi ymddwyn yn warthus.Roedd hi'n dweud:‘Dw i'n mynd at fy nghariadon.Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi,gwlân, llin, olew, a diodydd.’
6 Felly, dw i am gau ei ffordd gyda draina chodi wal i'w rhwystro,fel ei bod hi'n colli ei ffordd.
7 Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon,bydd hi'n methu eu cyrraedd nhw.Bydd hi'n chwilio, ond yn methu ffeindio nhw.Bydd hi'n dweud wedyn,‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr.Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’
8 “Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd – ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal!
9 Felly, dw i'n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl,a'r cynhaeaf grawnwin hefyd.Dw i'n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a'r llinoeddwn i wedi ei roi iddi i'w gwisgo.
10 Yn fuan iawn, dw i'n mynd i wneud iddisefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon.Fydd neb yn gallu ei helpu hi!
11 Bydd ei holl bartïo ar ben:ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a'i Sabothau wythnosol –pob un parti!