7 Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon,bydd hi'n methu eu cyrraedd nhw.Bydd hi'n chwilio, ond yn methu ffeindio nhw.Bydd hi'n dweud wedyn,‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr.Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’
8 “Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd – ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal!
9 Felly, dw i'n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl,a'r cynhaeaf grawnwin hefyd.Dw i'n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a'r llinoeddwn i wedi ei roi iddi i'w gwisgo.
10 Yn fuan iawn, dw i'n mynd i wneud iddisefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon.Fydd neb yn gallu ei helpu hi!
11 Bydd ei holl bartïo ar ben:ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a'i Sabothau wythnosol –pob un parti!
12 Bydda i'n difetha ei gwinllannoedd a'i choed ffigys –roedd hi'n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl.Bydda i'n troi'r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu'n wyllt;dim ond anifeiliaid gwylltion fydd yn bwyta eu ffrwyth.
13 Bydda i'n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi'nllosgi arogldarth i ddelwau o Baal.Roedd hi'n gwisgo'i chlustdlysau a'i gemwaithi fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.