1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i:“Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a'i bod yn anffyddlon i ti. Dyna'n union fel mae'r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw'n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.”
2 Felly dyma fi'n mynd a talu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani.
3 A dyma fi'n dweud wrthi, “O hyn allan ti'n mynd i aros gyda mi. Dwyt ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.”
4 Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nag arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol.