1 Gwrandwch, chi offeiriaid!Daliwch sylw, bobl Israel!Clywch, chi'r teulu brenhinol!Mae'r farn ar fin dod arnoch!Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa,a rhwyd i ddal pobl Tabor;
2 yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol,a bydda i'n eich cosbi chi i gyd.
3 Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim.Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i!Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio –mae Israel wedi ei llygru'n llwyr.
4 Mae eu drygioni'n eu rhwystrorhag troi yn ôl at eu Duw.Mae puteindra ysbrydol wedi eu meddiannu,a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.
5 Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni.A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.
6 Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr ARGLWYDDgyda'i defaid a'u geifr a'u bustych.Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi eu gadael nhw.