1 dw i eisiau iacháu Israel.Ond mae pechod Effraim yn y golwg,a drygioni Samaria mor amlwg.Maen nhw mor dwyllodrus!Mae lladron yn torri i mewn i'r tai,a gangiau'n dwyn ar y strydoedd.
2 Dŷn nhw ddim yn sylweddolify mod i'n gweld y drwg i gyd.Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw –dw i'n ei weld o flaen fy llygaid!
3 Mae'r brenin yn mwynhau gweld drwga'r tywysogion yn twyllo.
4 Maen nhw i gyd yn godinebu!Maen nhw fel popty crasboeth –does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tântra mae'n tylino'r toes,na pan mae'n cael ei bobi!
5 Mae'r brenin yn cynnal parti,ac mae'r tywysogion yn meddwi;Mae e'n cynllwynio gyda paganiaid