10 Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.Wnân nhw ddim troi'n ôl at yr ARGLWYDD eu Duw!Er gwaetha'r cwbl maen nhw'n gwrthod troi ato.
11 Mae Effraim fel colomen ddisynnwyr, hawdd i'w thwyllo –mae'n galw ar yr Aifft am help,ac wedyn yn troi at Asyria.
12 Bydda i'n taflu fy rhwyd i'w rhwystro rhag hedfan;bydda i'n eu dal nhw fel dal adar,ac yn eu cosbi nhw pan glywa i nhw'n heidio at ei gilydd.
13 Gwae nhw am geisio dianc oddi wrtho i!Dinistr gân nhw am wrthryfela yn fy erbyn i!Sut alla i eu gollwng nhw'n rhyddpan maen nhw'n dweud celwydd amdana i?
14 Dŷn nhw ddim yn galw arna i o ddifrif.Maen nhw'n gorweddian ar eu gwlâu yn gweiddi,a torri eu hunain â chyllyll wrth ofyn am ŷd a grawnwin.Maen nhw wedi troi cefn arna i,
15 er mai fi wnaeth eu dysgu nhw.Fi wnaeth eu gwneud nhw'n gryf,ond maen nhw'n cynllwynio i wneud drwg i mi.
16 Maen nhw'n troi at Baal!Maen nhw fel bwa llac, yn dda i ddim.Byddan nhw'n cael eu lladd gan y gelynam siarad mor hy yn fy erbyn.Byddan nhw'n destun sbort i bobl yr Aifft.