6 ac yn troi ata i gan fwriadu brad.Bwriadau sydd fel popty poeth,yn mudlosgi drwy'r nosac yn cynnau'n fflamau tân yn y bore.
7 Maen nhw i gyd fel popty crasboeth,yn lladd eu llywodraethwyr.Mae eu brenhinoedd i gyd wedi syrthio,a does dim un yn galw arna i!
8 Mae Effraim wedi cymysgu gyda'r cenhedloedd.Mae fel bara tenau wedi ei losgi ar un ochr!
9 Mae estroniaid yn sugno ei nerth,a dydy e ddim wedi sylwi!Mae fel hen ddyn a'i wallt yn brithoheb iddo sylwi!
10 Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.Wnân nhw ddim troi'n ôl at yr ARGLWYDD eu Duw!Er gwaetha'r cwbl maen nhw'n gwrthod troi ato.
11 Mae Effraim fel colomen ddisynnwyr, hawdd i'w thwyllo –mae'n galw ar yr Aifft am help,ac wedyn yn troi at Asyria.
12 Bydda i'n taflu fy rhwyd i'w rhwystro rhag hedfan;bydda i'n eu dal nhw fel dal adar,ac yn eu cosbi nhw pan glywa i nhw'n heidio at ei gilydd.