1 Canwch y corn hwrdd! Rhybuddiwch y bobl!Mae eryr yn hofran uwch teml yr ARGLWYDD.Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad gyda mi,ac wedi gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.
2 Mae Israel yn galw arna i,“O Dduw, dŷn ni'n dy gydnabod di!”
3 Ond mae'n rhy hwyr! Mae Israel wedi gwrthod y da,a bydd y gelyn yn ei erlyn.
4 Maen nhw wedi dewis brenhinoeddheb ofyn i mi.Maen nhw wedi urddo arweinwyrheb i mi gytuno.Maen nhw wedi gwneud eilunodgyda'r arian a'r aur oedd ganddyn nhw –ffordd dda i ddinistrio'i hunain!