10 Am ei bod nhw wedi talu am gariad y cenhedloedd,dw i'n mynd i'w casglu nhw i gael eu barnu,a byddan nhw'n gwywo dan orthrwm y brenin mawr.
11 Er fod Effraim wedi adeiladu allorau i aberthu dros bechod,maen nhw wedi eu troi yn allorau i bechu!
12 Er fy mod wedi rhoi cyfreithiau manwl iddyn nhw,maen nhw'n trin y cwbl fel rhywbeth hollol ddieithr!
13 Mae'n nhw'n dod i offrymu aberthauer mwyn cael bwyta'r cig!Dydy'r ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw!Yn fuan iawn, bydd yn delio gyda'i pechodau nhw,ac yn eu cosbi nhw;byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!
14 Mae Israel wedi anghofio'i Chrëwr.Mae Jwda wedi adeiladu palasau,a chryfhau ei chaerau amddiffynnol.Ond bydda i'n anfon tân i'w threfi,ac yn llosgi ei phalasau.