2 Mae Israel yn galw arna i,“O Dduw, dŷn ni'n dy gydnabod di!”
3 Ond mae'n rhy hwyr! Mae Israel wedi gwrthod y da,a bydd y gelyn yn ei erlyn.
4 Maen nhw wedi dewis brenhinoeddheb ofyn i mi.Maen nhw wedi urddo arweinwyrheb i mi gytuno.Maen nhw wedi gwneud eilunodgyda'r arian a'r aur oedd ganddyn nhw –ffordd dda i ddinistrio'i hunain!
5 Dw i wedi gwrthod tarw Samaria.Dw i wedi digio'n lân gyda nhw!Fydd hi ddim yn hir nes i mi eu cosbi nhw,
6 er mai pobl Israel ydyn nhw!Cafodd y peth hwnnw ei greu gan grefftwr –nid Duw ydy e!Felly, bydd tarw Samariayn cael ei falu'n ddarnau mân!
7 Maen nhw wedi hau gwynt,ond byddan nhw'n medi corwynt!‛Dydy ŷd heb ben ddim yn rhoi blawd.‛Hyd yn oed petai'n rhoi cnwd,pobl estron fydd yn ei fwyta.
8 Bydd Israel wedi ei llyncu gan y cenhedloedd;bydd fel darn o sbwriel wedi ei daflu i ffwrdd.