2 Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl,a bydd y grawnwin o'r gwinllannoedd yn dy siomi.
3 Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD.Bydd Effraim yn mynd yn ôl i'r Aifft,ac yn bwyta bwyd aflan yn Asyria.
4 Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r ARGLWYDD,nac offrymu aberthau iddo.Bydd yr aberthau'n aflan,fel bwyd pobl sy'n galaru;bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru.Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig;fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD.
5 Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl –sut fyddwch chi'n dathlu Gwyliau'r ARGLWYDD?
6 Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr,bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw,a Memffis yn eu claddu nhw.Bydd chwyn yn chwennych eu trysoraua mieri'n meddiannu eu tai.
7 Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd!Mae dydd y farn wedi dod!Mae'n bryd i Israel wybod!“Mae'r proffwyd yn hurt!Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!”Ti wedi pechu gymaint,ac mor llawn casineb!
8 Mae'r proffwyd yn wyliwrdros Effraim ar ran Duw.Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau;a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.