6 Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr,bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw,a Memffis yn eu claddu nhw.Bydd chwyn yn chwennych eu trysoraua mieri'n meddiannu eu tai.
7 Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd!Mae dydd y farn wedi dod!Mae'n bryd i Israel wybod!“Mae'r proffwyd yn hurt!Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!”Ti wedi pechu gymaint,ac mor llawn casineb!
8 Mae'r proffwyd yn wyliwrdros Effraim ar ran Duw.Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau;a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.
9 Mae'r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth,fel digwyddodd yn Gibea gynt.Bydd Duw yn delio gyda'u drygioniac yn eu cosbi am eu pechodau.
10 Roedd darganfod Israelfel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch.I mi, roedd dy hynafiaidfel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys.Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor,a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus –cyn pen dim aethon nhw mor ffiaiddâ'r eilun roedden nhw'n ei addoli.
11 “Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant – byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth!
12 Hyd yn oed petaen nhw'n magu plant, bydda i'n eu cipio nhw i ffwrdd – fydd dim un ar ôl. Gwae nhw! Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw!