1 Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses:
2 “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a croesi'r Afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i'r tir dw i'n ei roi i chi.
3 Fel gwnes i addo i Moses, dw i'n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi'n cerdded arno.
4 Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A'r holl ffordd o'r Afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) i Fôr y Canoldir yn y gorllewin.
5 Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di.