Josua 20 BNET

Trefi Lloches

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua:

2 “Dywed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches wnes i orchymyn i Moses ddweud wrthoch chi amdanyn nhw.

3 Bydd unrhyw un sy'n lladd person yn ddamweiniol yn gallu dianc yno. Bydd un o'r trefi yma yn lle saff i ddianc oddi wrth y perthynas sydd am ddial.

4 Dylai'r un sydd wedi lladd rhywun trwy ddamwain, ddianc i un o'r trefi yma, a mynd i'r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i'r arweinwyr yno. Yna byddan nhw'n gadael iddo fynd i mewn i'r dref i fyw.

5 A pan fydd y perthynas sydd â'r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd – doedd e ddim wedi bwriadu lladd.

6 Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos a'r un sy'n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i'r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.”

7 Felly dyma nhw'n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali, Sichem ym mryniau Effraim, a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda.

8 Ac i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw'n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben, Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad, a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse.

9 Y rhain gafodd eu dewis yn drefi lloches i bobl Israel a'r mewnfudwyr oedd yn byw gyda nhw. Gallai rhywun oedd wedi lladd person yn ddamweiniol, ddianc yno i osgoi cael ei ladd gan y perthynas sydd â'r hawl i ddial, hyd nes i'w achos gael gwrandawiad mewn llys cyhoeddus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24