Josua 15 BNET

Y tir gafodd llwyth Jwda

1 Roedd y tir gafodd ei roi i lwyth Jwda yn dilyn y ffin gydag Edom i Anialwch Sin yn y Negef i lawr yn y de.

2 Roedd y ffin yn y de yn dechrau o ben isaf y Môr Marw,

3 heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron, ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca.

4 Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de.

5 Y Môr Marw at aber Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw,

6 i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben).

7 Ymlaen wedyn i Debir o Ddyffryn Achor, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, i'r de o'r ceunant.) Yna heibio Dyfroedd En-shemesh cyn belled ag En-rogel.

8 Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm.

9 O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearim).

10 Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna.

11 Yna i gyfeiriad y gogledd at lethrau Ecron, ymlaen i Shicron, croesi i Fynydd Baäla, ac i Iabneël a Môr y Canoldir.

12 Môr y Canoldir ei hun oedd y ffin orllewinol.Dyna oedd ffiniau teuluoedd llwyth Jwda.

Caleb yn concro Hebron a Debir

13 Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)

14 Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai.

15 Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.)

16 Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”

17 Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.

18 Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma ei thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?”

19 A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.

Trefi Jwda

20 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda:

21 Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr,

22 Cina, Dimona, Adada,

23 Cedesh, Chatsor, Ithnan,

24 Siff, Telem, Bealoth,

25 Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor),

26 Amam, Shema, Molada,

27 Chatsar-gada, Cheshmon, Beth-pelet,

28 Chatsar-shwal, Beersheba, Bisiothia,

29 Baäla, Ïim, Etsem,

30 Eltolad, Cesil, Horma,

31 Siclag, Madmanna, Sansanna,

32 Lebaoth, Shilchim, Ain a Rimmon. Dau ddeg naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

33 Yna'r trefi ar yr iseldir: Eshtaol, Sora, Ashna,

34 Sanoach, En-gannïm, Tappŵach, Enam,

35 Iarmwth, Adwlam, Socho, Aseca,

36 Shaaraim, Adithaïm, a Gedera (neu Gederothaim) – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

37 Hefyd trefi Senan, Chadasha, Migdal-gad,

38 Dilean, Mitspe, Iocteël,

39 Lachish, Botscath, Eglon,

40 Cabbon, Lachmas, Citlish,

41 Gederoth, Beth-dagon, Naäma, a Macceda – un deg chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

42 Trefi Libna, Ether, Ashan,

43 Ifftach, Ashna, Netsib,

44 Ceila, Achsib, a Maresha – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

45 Yna Ecron a'r trefi a'r pentrefi o'i chwmpas hi,

46 ac i gyfeiriad y gorllewin, y trefi oedd yn ymyl Ashdod, a'r pentrefi o'u cwmpas.

47 Ashdod ei hun, a Gasa a'r trefi a'r pentrefi o'u cwmpas – yr holl ffordd at Wadi'r Aifft ac arfordir Môr y Canoldir.

48 Wedyn y trefi yn y bryniau: Shamîr, Iattir, Socho,

49 Danna, Ciriath-sanna (sef Debir),

50 Anab, Eshtemoa, Anim,

51 Gosen, Holon, a Gilo – un deg un o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

52 Hefyd Arab, Dwma, Eshan,

53 Janwm, Beth-tappwach, Affeca,

54 Chwmta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sior – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

55 Yna Maon, Carmel, Siff, Iwtta,

56 Jesreel, Iocdeam, Sanoach,

57 Cain, Gibea, a Timna – deg o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

58 Chalchwl, Beth-tswr, Gedor,

59 Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

60 Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) a Rabba – dwy dref, a'r pentrefi o'u cwmpas.

61 Yna'r trefi yn yr anialwch – Beth-araba, Midin, Sechacha,

62 Nibshan, Tre'r Halen, ac En-gedi – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

63 Ond wnaeth dynion Jwda ddim llwyddo i goncro'r Jebwsiaid oedd yn byw yn Jerwsalem. Felly mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw gyda phobl Jwda hyd heddiw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24