Josua 12 BNET

Crynodeb o hanes Concro'r wlad

1 Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu – o Geunant Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen:

2 Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Ceunant Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Ceunant Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda tiriogaeth pobl Ammon – yn cynnwys hanner Gilead.

3 Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea i'r Môr Marw. Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de cyn belled â llethrau Mynydd Pisga.

4 Og, brenin Bashan – un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei,

5 a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd, Bashan yn y dwyrain, ac i'r gorllewin at y ffin gyda teyrnasoedd Geshwr a Maacha, a hanner arall Gilead at y ffin gyda teyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon.

6 Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi eu trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse.

7 A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a pobl Israel eu trechu i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen – o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac ac at wlad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel.

8 Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, Dyffryn Iorddonen, y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid):

9 Brenin Jericho;brenin Ai, ger Bethel;

10 brenin Jerwsalem;brenin Hebron;

11 brenin Iarmwth;brenin Lachish;

12 brenin Eglon;brenin Geser;

13 brenin Debir;brenin Geder;

14 brenin Horma;brenin Arad;

15 brenin Libna;brenin Adwlam;

16 brenin Macceda;brenin Bethel;

17 brenin Tappŵach;brenin Cheffer;

18 brenin Affec;brenin Lasaron;

19 brenin Madon;brenin Chatsor;

20 brenin Shimron-meron;brenin Achsaff;

21 brenin Taanach;brenin Megido;

22 brenin Cedesh;brenin Jocneam, ger Mynydd Carmel;

23 brenin Dor, ar yr arfordir;brenin Goïm, ger Gilgal;

24 a brenin Tirsa.Tri deg un o frenhinoedd i gyd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24