1 Dyma arweinwyr llwyth Lefi yn mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel,
2 yn Seilo yn Canaan. A dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses roi trefi i ni fyw ynddyn nhw, gyda tir pori o'u cwmpas nhw i'n hanifeiliaid.”
3 Felly, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, dyma bobl Israel yn rhoi trefi gyda tir pori o'u cwmpas nhw, i lwyth Lefi:
4 Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin.
5 A dyma'r gweddill o ddisgynyddion Cohath yn cael deg tref o diriogaeth llwythau Effraim, Dan a hanner llwyth Manasse.
6 Cafodd disgynyddion Gershon un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali, a hanner arall llwyth Manasse yn Bashan.
7 Cafodd y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Merari un deg dwy o drefi o diriogaeth Reuben, Gad a Sabulon.
8 Dyma'r trefi, gyda'u tir pori, wnaeth pobl Israel eu rhoi i lwyth Lefi, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses:
9 O diriogaeth llwythau Jwda a Simeon,
10 y trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd Cohath, oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad – nhw gafodd y rhai cyntaf:
11 Ciriath-arba, sef Hebron, ym mryniau Jwda. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)
12 Ond roedd y tir agored a'r pentrefi o'i chwmpas eisoes wedi cael eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.
13 Felly i ddisgynyddion Aaron yr offeiriad dyma nhw'n rhoi Hebron (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Libna,
14 Iattir, Eshtemoa,
15 Cholon, Debir,
16 Ain, Iwtta, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un. Naw o drefi wedi eu cymryd o diriogaeth y ddau lwyth yma.
17 O diriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n rhoi Gibeon, Geba,
18 Anathoth, ac Almon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
19 Felly cafodd un deg tair o drefi eu rhoi i'r offeiriad, disgynyddion Aaron.
20 Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath (o lwyth Lefi) y trefi canlynol:O diriogaeth llwyth Effraim dyma nhw'n rhoi
21 Sichem, ym mryniau Effraim (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Geser,
22 Cibtsaim, a Beth-choron, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
23 O diriogaeth llwyth Dan dyma nhw'n rhoi Eltece, Gibbethon,
24 Aialon, a Gath-rimmon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
25 O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Taanach a Jibleam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.
26 Felly cafodd y deg tref yma eu rhoi i weddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath.
27 Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon, o lwyth Lefi:O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall) a Beeshtera, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.
28 O diriogaeth llwyth Issachar: Cishon, Daberath,
29 Iarmwth, ac En-gannïm, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
30 O diriogaeth llwyth Asher: Mishal, Abdon,
31 Helcath, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
32 O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Chamath-dor, a Cartan, a'r tir pori o gwmpas pob un. Tair o drefi i gyd.
33 Felly cafodd yr un deg tair tref yma eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon.
34 Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari:O diriogaeth llwyth Sabulon: Jocneam, Carta,
35 Dimna, a Nahalal, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
36 O diriogaeth llwyth Reuben: Betser, Iahats,
37 Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
38 O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Machanaîm,
39 Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
40 Felly cafodd yr un deg dwy tref yma eu rhoi i weddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari.
41 Cafodd pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda'u tir pori, eu rhoi i lwyth Lefi, o fewn tiroedd pobl Israel.
42 Roedd tir pori o gwmpas pob un o'r trefi.
43 Felly dyma'r ARGLWYDD yn rhoi i bobl Israel yr holl dir roedd wedi ei addo i'w hynafiaid nhw. Dyma nhw'n ei goncro ac yn setlo i lawr i fyw ynddo.
44 A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch iddyn nhw fel roedd e wedi addo ar lw i'w hynafiaid. Roedd wedi eu helpu i goncro eu gelynion i gyd.
45 Roedd pob un addewid wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel wedi dod yn wir.