Josua 18 BNET

Josua yn rhannu gweddill y tir

1 Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi Pabell Presenoldeb Duw. Er eu bod nhw'n rheoli'r wlad,

2 roedd saith o'r llwythau yn dal heb gael eu tir.

3 A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd dindroi cyn cymryd y tir mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei roi i chi?

4 Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni.

5 Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na tir Joseff yn y gogledd.

6 Mapiwch y tir a'i rannu yn saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.

7 Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”

8 Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad, a'i mapio a paratoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”

9 Felly dyma'r dynion yn mynd trwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo.

10 A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.

Y tir gafodd llwyth Benjamin

11 Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a tir meibion Joseff.

12 Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o Afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen.

13 Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf.

14 Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin.

15 Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearim, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach.

16 Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, ac ymlaen i En-rogel.

17 O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh ac yna i Geliloth sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben).

18 Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun.

19 Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw wrth aber yr Afon Iorddonen. Dyna ffin y de.

20 Wedyn yr Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.

21 A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin:Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits,

22 Beth-araba, Semaraïm, Bethel,

23 Afim, Para, Offra,

24 Ceffar-ammona, Offni a Geba – un deg dwy o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

25 Gibeon, Rama, Beëroth,

26 Mitspe, Ceffira, Motsa,

27 Recem, Irpeël, Tarala,

28 Sela, Eleff, tref y Jebwsiaid (sef, Jerwsalem), Gibea, a Ciriath – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24