1 Teuluoedd llwyth Simeon gafodd yr ail ran. Roedd eu tir nhw o fewn tiriogaeth Jwda.
2 Roedd eu tir nhw yn cynnwys Beersheba, Molada,
3 Chatsar-shwal, Bala, Etsem,
4 Eltolad, Bethwl, Horma,
5 Siclag, Beth-marcaboth, Chatsar-swsa,
6 Beth-lebaoth, a Sharwchen – un deg tair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
7 Ain, Rimmon, Ether, ac Ashan – pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
8 Hefyd y pentrefi oedd o'u cwmpas nhw yr holl ffordd i Baalath-beër (sef Rama yn y Negef).Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Simeon.
9 Cafodd tir Simeon ei gymryd allan o gyfran Jwda, am fod gan Jwda ormod o dir. Felly roedd tir llwyth Simeon o fewn ffiniau Jwda.
10 Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran.Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain.
11 Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Jocneam.
12 O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffia.
13 Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon cyn troi i gyfeiriad Nea.
14 Wedyn roedd yn mynd rownd i'r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél.
15 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idala, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
16 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
17 Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran.
18 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem,
19 Chaffaraïm, Shion, Anacharath,
20 Rabbith, Cishon, Ebes,
21 Remeth, En-gannïm, En-hada a Beth-patsets.
22 Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth yr Afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
23 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
24 Teuluoedd llwyth Asher gafodd y bumed ran.
25 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Helcath, Chali, Beten, Achsaff,
26 Alammelech, Amad, a Mishal.Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath.
27 Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd.
28 Yna i Ebron, Rechob, Hammon, a Cana, yr holl ffordd i Sidon Fawr.
29-30 Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Mahalab, Achsib, Acco, Affec, a Rechob.
31 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Asher, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
32 Teuluoedd llwyth Nafftali gafodd y chweched ran.
33 Roedd y ffin yn dechrau wrth Cheleff a'r dderwen yn Saänannim, yna mynd i Adami-necef, Iabneël, ymlaen i Lacwm, cyn gorffen wrth Afon Iorddonen.
34 Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i'r de, a llwyth Asher i'r gorllewin, a Jwda wrth Afon Iorddonen yn y dwyrain.
35 Roedd y trefi caerog amddiffynnol yn cynnwys Sidim, Ser, Chamath, Raccath, Cinnereth,
36 Adama, Rama, Chatsor,
37 Cedesh, Edrei, En-chatsor,
38 Iron, Migdal-el, Chorem, Beth-anath, a Beth-shemesh. Roedd ganddyn nhw un deg naw o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
39 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Nafftali, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
40 Teuluoedd llwyth Dan gafodd y seithfed ran.
41 Roedd eu tir nhw'n cynnwys Sora, Eshtaol, Ir-shemesh,
42 Shaalabin, Aialon, Ithla,
43 Elon, Timna, Ecron,
44 Eltece, Gibbethon, Baalath,
45 Jehwd, Bene-berac, Gath-rimmon,
46 Me-iarcon, a Raccon, gan gynnwys y tir o flaen Jopa.
47 (Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly dyma nhw'n mynd i'r gogledd ac yn ymosod ar Laish. Dyma nhw'n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw'r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.)
48 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
49 Ar ôl rhannu'r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn.
50 Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddai e'n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno.
51 Dyma sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu'r tir.