11 “Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi'r Afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.”
12 Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud:
13 “Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wrthoch chi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi'r tir yma, sydd i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno.
14 Gall eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid aros yma, ar y tir yma roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy'n gallu ymladd groesi'r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i'w helpu nhw
15 nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi ei goncro. Wedyn cewch groesi'n ôl i'r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen.”
16 A dyma nhw'n ateb Josua: “Byddwn ni'n gwneud popeth rwyt ti'n ddweud, a mynd ble bynnag wnei di'n hanfon ni.
17 Yn union fel gwnaethon ni wrando ar Moses, byddwn ni'n gwrando arnat ti. Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti, fel roedd e gyda Moses!