5 Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di.
6 Bydd yn gryf a dewr. Ti'n mynd i arwain y bobl yma i goncro'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid.
7 Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae'r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di.
8 Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a'i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae'n ei ddweud. Dyna sut fyddi di'n llwyddo.
9 Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na panicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!”
10 Felly dyma Josua yn rhoi'r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau:
11 “Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi'r Afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.”