15 A dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.
16 Roedd pum brenin yr Amoriaid wedi dianc a mynd i guddio mewn ogof yn Macceda.
17 Pan glywodd Josua ble roedden nhw,
18 dyma fe'n gorchymyn, “Rholiwch gerrig mawr i gau ceg yr ogof, a gosod dynion i'w gwarchod.
19 Wedyn peidiwch oedi – ewch ar ôl y gelynion. Peidiwch gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i'w trefi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i roi buddugoliaeth i chi.”
20 Roedd Josua a byddin Israel wedi eu lladd nhw i gyd bron, er fod rhai wedi llwyddo i ddianc i'r caerau amddiffynnol.
21 Yna dyma byddin Israel i gyd yn mynd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn.