18 dyma fe'n gorchymyn, “Rholiwch gerrig mawr i gau ceg yr ogof, a gosod dynion i'w gwarchod.
19 Wedyn peidiwch oedi – ewch ar ôl y gelynion. Peidiwch gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i'w trefi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i roi buddugoliaeth i chi.”
20 Roedd Josua a byddin Israel wedi eu lladd nhw i gyd bron, er fod rhai wedi llwyddo i ddianc i'r caerau amddiffynnol.
21 Yna dyma byddin Israel i gyd yn mynd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn.
22 A dyma Josua yn gorchymyn, “Agorwch geg yr ogof, a dod â'r pum brenin allan ata i.”
23 A dyma nhw'n gwneud hynny, a dod â'r pum brenin allan o'r ogof – brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon.
24 Dyma Josua yn galw pobl Israel ato, a dweud wrth gapteiniaid y fyddin, “Dewch yma, a gosod eich traed ar yddfau y brenhinoedd yma.” A dyna wnaethon nhw.