20 Roedd Josua a byddin Israel wedi eu lladd nhw i gyd bron, er fod rhai wedi llwyddo i ddianc i'r caerau amddiffynnol.
21 Yna dyma byddin Israel i gyd yn mynd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn.
22 A dyma Josua yn gorchymyn, “Agorwch geg yr ogof, a dod â'r pum brenin allan ata i.”
23 A dyma nhw'n gwneud hynny, a dod â'r pum brenin allan o'r ogof – brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon.
24 Dyma Josua yn galw pobl Israel ato, a dweud wrth gapteiniaid y fyddin, “Dewch yma, a gosod eich traed ar yddfau y brenhinoedd yma.” A dyna wnaethon nhw.
25 Yna dyma Josua'n dweud, “Peidiwch bod ag ofn a panicio! Byddwch yn gryf a dewr! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'ch gelynion chi i gyd.”
26 Yna dyma Josua yn dienyddio'r brenhinoedd, ac yn hongian eu cyrff ar bum coeden. Cawson nhw eu gadael yno yn hongian nes iddi nosi.