27 Wedi i'r haul fachlud dyma Josua yn gorchymyn i'r cyrff gael eu cymryd i lawr. Yna dyma nhw'n taflu'r cyrff i'r ogof lle roedden nhw wedi bod yn cuddio, a rhoi cerrig mawr dros geg yr ogof – maen nhw'n dal yna hyd heddiw.
28 Y diwrnod hwnnw hefyd dyma Josua yn concro tref Macceda, a lladd y bobl i gyd a'u brenin. Cafodd pawb eu lladd. Doedd dim un person wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.
29 Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau i Libna, i ymosod ar y dref honno.
30 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.
31 Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish.
32 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Dyma nhw'n llwyddo i'w choncro ar yr ail ddiwrnod. A dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna.
33 Daeth y brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, ond dyma Josua yn ei ladd e a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw.