30 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.
31 Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish.
32 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Dyma nhw'n llwyddo i'w choncro ar yr ail ddiwrnod. A dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna.
33 Daeth y brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, ond dyma Josua yn ei ladd e a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw.
34 Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Lachish i ymosod ar Eglon.
35 Dyma nhw'n concro'r dref y diwrnod hwnnw, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Lachish.
36 Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Eglon i ymosod ar Hebron.