32 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Dyma nhw'n llwyddo i'w choncro ar yr ail ddiwrnod. A dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna.
33 Daeth y brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, ond dyma Josua yn ei ladd e a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw.
34 Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Lachish i ymosod ar Eglon.
35 Dyma nhw'n concro'r dref y diwrnod hwnnw, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Lachish.
36 Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Eglon i ymosod ar Hebron.
37 Dyma nhw'n concro'r dref, lladd ei brenin a phawb oedd yn byw yno, ac yn y pentrefi o'i chwmpas hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Eglon.
38 Yna dyma Josua a byddin Israel yn troi yn ôl i ymosod ar Debir.