40 Roedd Josua wedi concro'r ardal gyfan – y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir a'r llethrau i'r gorllewin, a'u brenhinoedd i gyd. Doedd neb ar ôl. Cafodd pob enaid byw ei ladd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel wedi gorchymyn.
41 Roedd wedi concro'r ardal gyfan o Cadesh-barnea i Gasa ac o Gosen i Gibeon.
42 Llwyddodd Josua i ddal y brenhinoedd yma i gyd a'i tiroedd, am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd drostyn nhw.
43 Wedyn dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.