6 A dyma bobl Gibeon yn anfon neges at Josua yn y gwersyll yn Gilgal: “Paid troi cefn arnon ni, dy weision! Achub ni! Helpa ni! Mae brenhinoedd yr Amoriaid, sy'n byw yn y bryniau, wedi ymuno gyda'i gilydd i ymosod arnon ni.”
7 Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan, gan gynnwys ei ddynion gorau, yn gadael y gwersyll yn Gilgal i'w helpu nhw.
8 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i ti. Fydd neb yn gallu dy rwystro di.”
9 Ar ôl martsio drwy'r nos o Gilgal, dyma Josua yn ymosod arnyn nhw'n gwbl ddi-rybudd.
10 Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw banicio, a cawson nhw eu trechu'n llwyr gan Israel yn Gibeon. A dyma byddin Israel yn mynd ar eu holau i lawr drwy fwlch Beth-choron, a lladd nifer fawr yr holl ffordd i Aseca a Macceda.
11 Wrth iddyn nhw ddianc oddi wrth byddin Israel i lawr Bwlch Beth-choron i Aseca, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg anferth arnyn nhw. Cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg nag oedd wedi eu lladd gan fyddin Israel yn y frwydr!
12 Ar y diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD wneud i Israel orchfygu'r Amoriaid, roedd Josua wedi gweddïo o flaen pobl Israel i gyd:“Haul, stopia yn yr awyruwch ben Gibeon.Ti leuad, saf yn llonydduwch Dyffryn Aialon.”