10 Wedyn dyma Josua yn troi yn ôl a concro tref Chatsor a lladd y brenin yno. (Chatsor oedd wedi bod yn arwain y teyrnasoedd yma i gyd.)
11 Dyma nhw'n lladd pawb yno – gafodd yr un enaid byw ei adael ar ôl. Yna dyma nhw'n llosgi'r dref.
12 Aeth Josua yn ei flaen i goncro'r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn.
13 Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi hynny oedd wedi ei hadeiladu ar garnedd. Chatsor oedd yr unig un gafodd ei llosgi.
14 Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o'r trefi, a chadw'r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd – adawyd neb yn fyw.
15 Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses.
16 Llwyddodd Josua i goncro'r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a'r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen, a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd.