14 Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o'r trefi, a chadw'r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd – adawyd neb yn fyw.
15 Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses.
16 Llwyddodd Josua i goncro'r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a'r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen, a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd.
17 Concrodd bobman o fynydd Halac sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn y dyffryn rhwng Mynydd Hermon a bryniau Libanus. Daliodd bob un o'u brenhinoedd, a'u lladd.
18 Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn.
19 Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (ar wahân i'r Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd.
20 Roedd yr ARGLWYDD ei hun wedi eu gwneud nhw'n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw'n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses.