18 Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn.
19 Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (ar wahân i'r Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd.
20 Roedd yr ARGLWYDD ei hun wedi eu gwneud nhw'n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw'n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses.
21 Yn ystod y cyfnod yma, llwyddodd Josua a'i fyddin i ddinistrio disgynyddion Anac hefyd, oedd yn byw yn y bryniau – yn Hebron, Debir, Anab, a gweddill bryniau Jwda ac Israel. Lladdodd Josua nhw i gyd, a dinistrio eu trefi.
22 Doedd neb o ddisgynyddion Anac ar ôl lle mae pobl Israel yn byw. Ond roedd rhai yn dal ar ôl yn Gasa, Gath ac Ashdod.
23 Felly roedd Josua wedi concro'r wlad i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Moses. A dyma Josua yn rhannu'r wlad rhwng y llwythau, ac yn rhoi eu tiriogaeth arbennig i bob un.Ac roedd heddwch yn y wlad.