16 Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn o Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba,
17 Cheshbon, a'r trefi o'i chwmpas – gan gynnwys Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon,
18 Iahats, Cedemoth, Meffaäth,
19 Ciriathaim, Sibma, Sereth-shachar ar y bryn yn y dyffryn,
20 Beth-peor, llethrau Mynydd Pisga, a Beth-ieshimoth.
21 Roedd yn cynnwys trefi'r gwastadedd i gyd, a holl diriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu o Cheshbon. Roedd Moses wedi ei goncro fe, ac arweinwyr y Midianiaid oedd dan ei reolaeth, ac yn byw yn ei diriogaeth – Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba.
22 Roedd pobl Israel hefyd wedi lladd y dewin, Balaam fab Beor, ac eraill.