23 Ffin orllewinol tiriogaeth Reuben oedd yr Afon Iorddonen. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Reuben, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
24 Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd llwyth Gad:
25 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Iaser, trefi Gilead i gyd, a hanner tiriogaeth pobl Ammon, yr holl ffordd i Aroer, ger Rabba.
26 Roedd yn ymestyn o Cheshbon yn y de i Ramath-mitspe a Betonîm yn y gogledd, ac o Machanaîm i ardal Debir.
27 Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon – sef y tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea,
28 Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
29 Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse: