27 Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon – sef y tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea,
28 Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
29 Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse:
30 Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua'r gogledd o Machanaîm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan,
31 hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse.
32 Dyna sut wnaeth Moses rannu'r tir pan oedd ar wastatir Moab i'r dwyrain o Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
33 Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, Duw Israel.