6 A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy'n byw yn mynydd-dir Libanus yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid.“Mae'r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun.
7 Mae i'w rannu rhwng y naw llwyth a hanner sydd ddim eto wedi cael eu tiriogaeth.”
8 Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw.
9 Roedd eu tir yn ymestyn o Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon.
10 Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon.
11 Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a tir Bashan i Salca.
12 Hefyd Tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei (Roedd Og yn un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl). Roedd Moses wedi eu concro nhw, a chymryd eu tiroedd.