2 Cafodd y tir ei rannu rhwng y naw llwyth a hanner drwy daflu coelbren, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
3 Roedd Moses wedi rhoi tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen i ddau lwyth a hanner, ond doedd e ddim wedi rhoi tir i lwyth Lefi.
4 Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth – Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir. Roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda'r tir o'u cwmpas yn borfa i'w hanifeiliaid.
5 Felly dyma bobl Israel yn rhannu'r tir yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6 Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti'n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni'n dau, yn Cadesh-barnea.
7 Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi'n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl.
8 Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD fy Nuw.