13 Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)
14 Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai.
15 Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.)
16 Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”
17 Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.
18 Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma ei thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?”
19 A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.