3 heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron, ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca.
4 Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de.
5 Y Môr Marw at aber Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw,
6 i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben).
7 Ymlaen wedyn i Debir o Ddyffryn Achor, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, i'r de o'r ceunant.) Yna heibio Dyfroedd En-shemesh cyn belled ag En-rogel.
8 Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm.
9 O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearim).