1 Dyma'r tir gafodd ei roi i lwyth Manasse, mab hynaf Joseff. (Roedd ardaloedd Gilead a Bashan, i'r dwyrain o Afon Iorddonen, eisoes wedi eu rhoi i ddisgynyddion Machir – tad Gilead a mab hynaf Manasse – am ei fod yn filwr dewr.)
2 Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Manasse dir oedd i'r gorllewin o Afon Iorddonen. Disgynyddion Abieser, Chelec, Asriel, Sechem, Cheffer, a Shemida. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Manasse, mab Joseff.
3 Ond doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. (Cheffer oedd yn fab i Gilead, yn ŵyr i Machir ac yn or-ŵyr i Manasse.) Enwau merched Seloffchad oedd Machla, Noa, Hogla, Milca, a Tirtsa.
4 Dyma nhw'n mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses am roi tir i ni gyda'n perthnasau.” Felly dyma Josua yn rhoi tir iddyn nhw gyda brodyr eu tad, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.