3 A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd dindroi cyn cymryd y tir mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei roi i chi?
4 Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni.
5 Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na tir Joseff yn y gogledd.
6 Mapiwch y tir a'i rannu yn saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.
7 Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”
8 Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad, a'i mapio a paratoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”
9 Felly dyma'r dynion yn mynd trwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo.