7 Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”
8 Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad, a'i mapio a paratoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”
9 Felly dyma'r dynion yn mynd trwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo.
10 A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.
11 Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a tir meibion Joseff.
12 Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o Afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen.
13 Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf.