47 (Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly dyma nhw'n mynd i'r gogledd ac yn ymosod ar Laish. Dyma nhw'n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw'r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.)
48 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
49 Ar ôl rhannu'r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn.
50 Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddai e'n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno.
51 Dyma sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu'r tir.